Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: The Controlled Waste (England and Wales) Regulations 2012
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r offeryn hwn yn dirymu ac yn disodli Controlled Waste Regulations 1992, ac yn cael ei wneud ar sail gyfansawdd gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Mae’n nodi gwastraff fel gwastraff tŷ, gwastraff diwydiannol a gwastraff masnachol, a hefyd yn rhestru’r mathau o wastraff y gall awdurdodau lleol godi tâl am ei gasglu a chael gwared arno. Mae’r offeryn yn galluogi awdurdodau lleol (fel awdurdodau casglu gwastraff o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990) i godi tâl o dan adran 45 o’r Ddeddf honno er mwyn cael gwared ar wastraff sy’n dod o ystod ehangach o adeiladau annomestig nag a ganiateir gan Reoliadau 1992; mae hefyd yn cyfnerthu gwelliannau’r gorffennol ac yn cynnwys rhai diffiniadau a dosbarthiadau sydd wedi’u diwygio a’u diweddaru i wella eglurder y Rheoliadau a sicrhau eu bod yn gyson â deddfwriaeth ddiweddar arall. Mae hefyd yn darparu bod sbwriel a gwastraff penodol yn cael eu trin o dan Ran 2 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn yr un ffordd â gwastraff sy’n cael ei gasglu o dan adran 45 o’r Ddeddf.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 (ix) mewn perthynas â’r offeryn drafft hwn – nad yw wedi’i wneud… yn Gymraeg ac yn Saesneg
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 (ii) mewn perthynas â’r offeryn drafft hwn – ei fod yn
codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb
i’r Cynulliad.
Bydd y Rheoliadau hyn yn galluogi awdurdodau lleol i godi tâl am gasglu a chael gwared ar wastraff sy’n dod o adeiladau annomestig (ac eithrio siopau elusen sy’n gwerthu nwyddau sydd wedi’u rhoddi a sefydliadau ‘ail ddefnyddio’ oherwydd bod eu gwastraff wedi dod o adeiladau domestig, a neuaddau pentref a ddefnyddir ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus) tra ar hyn o bryd maent ond yn codi tâl am gasglu’r gwastraff. Mae’r rheoliadau hefyd yn galluogi tâl i gael ei godi ar wastraff sy’n cael ei gasglu o adeiladau a ddefnyddir gan sefydliadau yn yr un modd ag ar gyfer gwastraff nad yw’n beryglus a gynhyrchir ar y safle.
Cynghorwyr cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol